A Graduated English-Welsh Spelling-Book/Appendix
Appearance
APPENDIX.
ENGLISH-WELSH DIALOGUES.
ATTODIAD.
CYDYMDDYDDANION SAESNEG A CHYMRAEG.
APPENDIX.
CONVERSATIONS, &c. | YMDDYDDANION, &c. |
Good morning to you. | Boreu da i chwi. |
Good morning, sir. | Boreu da, syr. |
It is fine weather. | Mae hi yn dywydd braf. |
Delightful, after the rain we have had. | Hyfryd ar ol y gwlaw a gawsom. |
Will you come for a walk to the country? | A ddeuwch chwi i roi tro ir wlad? |
I will with pleasure. | Deuaf gyd a phleser. |
Which way shall we go? | Pa ffordd yr awn i? |
Suppose we go along the road, and return through the fields | Beth ped aem ar hyd y ffordd, a dychwelyd drwy y caeau. |
Very well; let us start then. | O'r goreu; gadewch i ni gychwyn ynte! |
What o'clock is it now? | Beth yw hi o'r gloch yn awr? |
Half-past ten. | Hanner awr wedi deg. |
We must manage to be back by noon. | Rhaid i ni ymorol bod yn ol erbyn hanner dydd. |
Then we had better not go far. | Gwell ynte i ni beidio myned yn mhell. |
Where does this road lead to? | I ba le mae y ffordd hon yn arwain? |
To a village about two miles off. | I bentref oddeutu dwy filltir oddi yma. |
The country air is very healthy. | Y mae awyr y wlad yn bur iachus. |
It is, and does one much good. | Ydyw, ac yn gwneud lles mawr i un. |
Do you know anything of this neighbourhood? | A wyddoch chwi rywbeth am y gymmydogaeth hon. |
Yes, a little. | Gwn, ychydig. |
Who lives in that mansion? | Pwy sydd yn byw yn y plas yna? |
An independent gentleman. | Gwr boneddig yn byw ar ei arian. |
He is a man of property, I presume. | Y mae yn wr o gyfoeth feddyliwn |
He is; and most of the farmers about here are his tenants. | Ydyw; ái dyddynwyr ef ydyw y rhan fwyaf ó'r ffermwyr oddeutu yma. |
Another pretty residence; who lives here? | Dyma dŷ hardd arall; pwy sydd yn byw yma? |
The clergyman of the parish; an esteemed man, and a good friend to the poor. | Offeiriad y plwyf; gwr parchus, a chyfaill da ir tlawd. |
I begin to feel the heat of the sun. | Yr wyf yn dechreu teimlo gwres yr haul. |
It does get warm: but we shall have a fine shade presently. | Y mae hi yn gwresogi; ond ni a gawn gysgod hyfryd yn fuan. |
What is it I see beyond the bridge yonder? | Beth wyf yn weled tu draw ír bont acw? |
The wind-mill. | Y felin wynt. |
I see the spire of a church; I suppose this is the village. | Yr wyf yn gweled clochdy eglwys, hwn yw y pentref debygwn. |
It is; and the building on the left is the school-house. | Ië; ár adeilad ár yr ochr aswy yw yr ysgoldy. |
Is the church-yard worth visiting? | A ydyw y fynwent yn werth ymweled a hi? |
Yes; but we cannot stop. | Ydyw, ond nis gallwn aros. |
Must we go over that hill on our return? | A raid i ni fyned dros y bryn yna ár ein dychweliad? |
No; we can take the fields along the river side. | Na raid; gallwn gymmeryd y caeau efo ochr yr afon. |
Is there a footpath that way? | A oes llwybr troed y ffordd hono? |
There is, and a very pleasant one too. | Oes, ac un hyfryd iawn hefyd. |
Do we go over this stile? | A ydym yn myned dros y gamfa yma? |
To save that trouble the gate can be opened. | I arbed y drafferth hono, gellir agor y llidiart. |
What a fine crop of hay there is in this meadow. | Y fath gnwd da o wair sydd yn y weirglodd yma. |
Capital; and very soon it will be ready for cutting. | Rhagorol; ac, yn bur fuan, bydd yn barod íw dorí. |
What grows in the field adjoining? | Beth sydd yn tyfu yn y cae nesaf? |
Wheat, I should think. | Gwenith, mi feddyliwn. |
Is it not barley? | Ai nid haidd ydyw? |
No; but there is a part of it oats. | Nage; ond y mae rhan o hono yn geirch. |
Is that a potatoe field beyond it? | Ai cae cloron yw hwna, tu draw iddo? |
Yes, and a part of it set for turnips. | Ië, a rhan o hono wedi ei osod i faip. |
Are much beans and peas raised about here? | A godir llawer o ffa a phys oddeutu yma? |
Yes, and cabbage too. | Gwneir, a bresych hefyd. |
We must walk quicker, or we shall have a shower. | Rhaid i ni gerdded yn gyflymach, onide ni a gawn gawod. |
Did you hear the thunder last night? | A glywsoch chwi y taranau neithiwr? |
I did not, but fancied I saw lightning. | Naddo; ond tybiais i mi weled mellt. |
It hailed about midnight. | Yr oedd yn bwrw cenllysg tua hanner nos. |
A few days ago there was snow upon the mountains. | Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd eira ar y mynyddoedd. |
So I have heard, and that it was freezing hard at night. | Felly y clywais, ai bod hi yn rhewi yn galed y nos. |
Well, we are back by the time we said. | Wel, dyma ni yn ol erbyn yr amser y dywedasom. |
Yes, to the minute. | Ië, í'r fynud. |
When shall we go again? | Pa bryd y cawn i fyned eto? |
Any day next week, except Tuesday. | Rhyw ddiwrnod yr wythnos nesaf oddi eithr Dydd Mawrth. |
Let me know on Monday evening, if you please. | Gadewch i mi wybod nos Llun os gwelwch yn dda? |
I will, if possible. | Os yn alluadwy, mi wnaf. |
This is my nearest way; so good bye for the present. | Dyma 'r ffordd agosaf i mi; felly da y bo chwi yn awr. |
Good bye, sir, and thank you for your company. | Da y bo chwi, syr, a diolch i chwi am eich cwmni. |
MEAT AND DRINK, &c. | BWYD A DIOD, &c. |
I want my breakfast. | Mae arnaf eisiau fy moreufwyd. |
What would you like to have, sir? | Beth a ewyllysiech ei gael, syr? |
Make me a cup of tea. | Gwnewch i mi gwpaned o De. |
I am not fond of coffee. | Nid wyf yn hoff o goffi. |
I like coffee better than tea. | Gwell genyf i goffi, na the. |
Coffee does not agree with me. | Nid yw coffi yn dygymmod a mi. |
Fetch a pound of sugar. | Ewch i nol pwys o siwgr. |
Where from? | O ba le? |
From the corner shop. | O siop y gongl. |
Have you any cream? | A oes genych hufen? |
No; but I have some new milk. | Nac oes, ond mae genyf laeth newydd ei odro. |
Cut some bread and butter. | Torwch fara ac ymenyn. |
Will you have some toasted bread? | A fynwch chwi fara wedi ei grasu? |
Yes, and a little cheese. | Cymeraf, ac ychdig o gaws. |
Are there any cakes sold here? | A oes teisenau ár werth yma? |
Yes, but I never buy any. | Oes, ond nid wyf byth yn prynu rhai. |
Are you fond of oat-meal cakes? | A ydych yn hoff o fara ceirch? |
I am. | Ydwyf. |
But wheaten bread is the best. | Ond bara gwenith ydyw 'r goreu. |
Some prefer rye bread. | Mae 'n well gan rai fara rhyg. |
It does not agree with me. | Nid ydyw yn dygymmod a mi. |
Nor with me. | Na chyda minnau. |
Is it dinner time? | A ydyw yn amser ciniaw? |
Yes, this half hour. | Ydyw er's hanner awr. |
I thought so. | Yr oeddwn yn meddwl hyny. |
Is dinner ready? | A ydyw y ciniaw yn barod? |
Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
I feel very hungry; do you? | Yr wyf yn teimlo yn dra newynog, a ydych chwi? |
No, sir, I have no appetite. | Nac ydwyf, nid oes arnaf chwant bwyd. |
What is the cause of it? | Beth ydyw yr achos o hyny? |
I do not know, sir. | Nid wyf yn gwybod, syr. |
What is for dinner to-day? | Beth sydd i giniaw heddyw? |
There is roasted meat. | Mae yma gig rhost. |
Is it beef? | Ai cig eidion ydyw? |
No; it is veal. | Nage; cig llo ydyw. |
Is it the loin? | Ai y lwyn ydyw? |
No; it is the shoulder. | Nage; yr ysbawd ydyw. |
There is also a loin of mutton. | Mae yma hefyd lwyn o gig mollt. |
Is it roasted or boiled? | Pa un ai rhostedig ai berwedig? |
Roasted, sir. | Rhostedig, syr. |
I thought you had some lamb. | Tybiais fod genych gig oen. |
No, I failed to go to market in time. | Nag oes, methais a myned ir farchnad mewn pryd. |
Have you any boiled meat? | A oes genych gig berw? |
There is a leg of veal. | Mae yma goes o gig llo. |
Bring the bacon here. | Deuwch á'r cig moch yma. |
Who is fond of venison? | Pwy sydd yn hoff o hydd-gig? |
I am very fond of it. | Yr wyf i yn bur hoff o hono. |
May I cut some for you? | A gaf fi dori peth i chwi? |
A little, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
Have you any fowls? | A oes genych ddim adar? |
Yes, I have a brace of partridges. | Oes, mae genyf gwpl o betris. |
Is that a pigeon pie? | Ai pastai golomenod yw hona? |
No; it is an eel pie. | Nage, pastai llyswod ydyw. |
Perhaps you would have preferred the duck. | Feallai y buasech yn dewis yr hwyaden. |
I am very fond of duck and green peas. | Yr wyf yn bur hoff o hwyaden a phys gleision. |
I am glad to hear; for there are plenty of them to-day. | Mae yn dda genyf glywed, oblegid y mae yma ddigonedd heddyw. |
Will you take turnips or carrots? | A gymmerwch chwi faip neu foron? |
Not any, thank you, I am satisfied. | Dim, diolchi chwi, yr ydwyf wedi fy nigoni. |
Bring the cheese on the table. | Deuwch ar caws ar y bwrdd. |
May I cut you some? | A gaf i dori peth i chwi? |
A small piece, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
What will you drink? | Beth a wnewch chwi ei yfed? |
A glass of water. | Gwydriad o ddwfr. |
Draw a quart of ale. | Gollyngwch chwart o gwrw. |
This is too sweet. | Mae hwn yn rhy felys. |
Draw a pint from the other barrel. | Gollyngwch beint o'r faril arall. |
This is too bitter. | Mae hwn yn rhy chwerw. |
Mix them together. | Cymmysgwch hwy ynghyd. |
It is much better now. | Y mae yn llawer gwell yn awr. |
Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
When was this brewed? | Pa bryd y darllawyd hwn? |
Last October. | Yn Hydref diweddaf. |
Old ale does not agree with me. | Nid ydyw hen gwrw yn dygymmod a mi. |
But fresh ale does. | Ond y mae cwrw newydd. |
I prefer old ale. | Mae yn well genyf i hen gwrw. |
Take a glass of wine with me. | Cymmerwch wydriad o win gyd a mi. |
Which? port or sherry? | Pa un? ai gwin coch, ai gwin gwyn? |
Whichever you please to take. | Yr un a weloch chwi yn dda iw gymmeryd. |
Allow me to give you another glass. | Gadewch i mi roddi i chwi wydriad arall. |
Not any more, thank you. | Dim yn rhagor, diolch i chwi. |
Let us now walk in the garden. | Gadewch i ni yn awr, rodio yn yr ardd. |
What is the size of your garden? | Beth ydyw maint eich gardd? |
It is nearly two acres. | Mae yn agos i ddwy erw. |
Is it a fruitful garden? | A ydyw yn ardd ffrwythlawn? |
The best in this part of the country. | Yr oreu yn y rhan yma ó'r wlad. |
Have you many trees in it? | A oes genych lawer o goed ynddi? |
Yes, a great many apple trees. | Oes, lawer o goed afalau. |
What would you like to have for supper? | Beth a ddymunech gael i swper? |
Bread and cheese. | Bara a chaws. |
Doctors do not recommend much supper. | Nid ydyw meddygon yn cymmeradwyo llawer o swper. |
Take some cold meat. | Cymmerwch gig oer. |
Not any, thank you. | Dim diolch i chwi. |
What will you drink? | Pa beth a yfwch chwi? |
A glass of small beer. | Gwydriad o ddiod fain. |
Take a glass of brandy. | Gymmerwch wydriad o frandi. |
I do not drink spirits. | Nid wyf yn yfed gwirod. |
Will you dine with me to-morrow? | A giniawch chwi gyd a mi y fory? |
I am sorry to say, I cannot. | Mae yn ddrwg genyf ddweud nas gallaf. |
Why? what is the cause? | Paham? beth ydyw yr achos? |
I must go to Shrewsbury to-morrow to meet my brother. | Rhaid i mi fyned ir Amwythig y fory i gyfarfod fy mrawd. |
Is he coming home? | A ydyw ef yn dyfod adre. |
Yes, for a short time. | Ydyw am yehydig amser. |
It is time to go to rest. | Mae hi yn bryd myned i orphwys. |
It is, I am getting sleepy. | Ydyw y mae, yr wyf yn myned yn gysglyd. |
Good night, sir. | Nos da i chwi, syr. |
SALUTATIONS, &c. | CYFARCHIADAU, &c. |
Good afternoon, sir. | Prydnhawn da, syr. |
How are you to-day? | Sut yr ydych chwi heddyw? |
I am very well, thank you. | Yr wyf yn bur iach, diolch i chwi. |
How are the wife and children? | Pa fodd mae 'r wraig a 'r plant? |
They are all very well. | Maent oll yn bur iach. |
Is your family well? | A ydyw eich teulu chwi yn iach? |
They are all well except the youngest child? | Maent oll yn iach, oddi eithr y plentyn ieuengaf. |
What ails him? | Beth sydd yn ei flino. |
The measles. | Y frech goch. |
How is your mother? | Sut y mae eich mam? |
She is pretty well considering her age. | Mae hi yn lled dda, ac ystyried ei hoed. |
How old is she? | Pa mor hen yw hi? |
She is eighty since Christmas. | Mae hi yn bedwar ugain er Nadolig. |
Is your father still living? | A ydyw eich tad yn fyw eto? |
No, he died last March. | Nag ydyw, bu farw yn mis Mawrth diweddaf. |
Was he long ill? | A fu efe yn hir yn sal? |
Yes, about two years. | Do, oddeutu dwy flynedd. |
You have had a great loss. | Chwi a gawsoch golled fawr. |
Yes; but mother has had a greater loss. | Do, ond fy mam a gafodd fwy o golled. |
Where was your father buried? | Yn mha le y claddwyd eich tad? |
He was buried at Wrexham. | Claddwyd ef yn Ngwrecsam. |
What was his age? | Beth oed ei oedran? |
Ninety. | Pedwar ugain a deg. |
He was very old. | Yr oedd yn bur hen. |
How are you this morning, sir? | Sut yr ydych chwi heddyw boreu, syr? |
I am not well; neither have I been well some time. | Nid wyf yn iach, ac nid wyf wedi bod yn iach er's peth amser. |
I am sorry to hear that. | Mae'n ddrwg genyf glywed hyny. |
Where is your pain? | Yn mha le mae eich poen? |
In my head. | Yn fy mhen. |
Have you been with a medical man? | A fuoch chwi gyd a meddyg? |
Yes; but the medicine does me no good. | Do, ond nid ydyw y cyffyriau yn gwneuthwr daioni i mi. |
Perhaps the doctor does not understand your complaint. | Feallai nad ydyw y meddyg yn deall eich afiechyd. |
Perhaps so. | Feallai hyny. |
You had better try another. | Gwell fyddai i chwi dreio un arall. |
I intend to do so next week. | Bwriadwyf wneud felly yr wythnos nesaf. |
Where are you going to-day? | I ba le yr ydych yn myned heddyw? |
I am going to Holyhead. | Yr wyf yn myned i Gaergybi. |
Will you go with me? | A ewch chwi gyd a mi? |
Yes, if you will stop until four o'clock. | Deuaf, os arhoswch tan bedwar o'r gloch. |
Can't you go sooner? | Oni ellwch chwi fyned yn gynt? |
No; I want to see my sister. | Na allaf, mae arnaf eisiau gweled fy chwaer. |
Very well, call at the Harp Inn. | Or goreu, gelwch yn Ngwesty'r Delyn. |
Where were you yesterday? | Pa le yr oeddych chwi ddoe? |
At Chester. | Yn Nghaer. |
What news from there? | Pa newydd oddi yno? |
Nothing at all of importance. | Dim yn y byd o bwys. |
Did you see my brother there? | A welsoch chwi fy mrawd yno? |
Yes, I saw him at a distance; he was very busy. | Do, gwelais ef o bell; yr oedd yn bur brysur. |
I expect him home next week. | Yr wyf yn ei ddysgwil adre yr wythnos nesaf. |
Not to stay at home. | Nid i aros gartref. |
No, only for a fortnight. | Nage, dim ond am bythefnos. |
Is he in a good situation? | A ydyw ef mewn sefyllfa dda? |
Yes, a very good one. | Ydyw, un dda iawn. |
Have you much to do at Holyhead this afternoon? | A oes genych lawer i wneud yn Nghaergybi heddyw prydnhawn? |
No, but little. | Nac oes, ond ychydig. |
Have you finished, sir? | A orphenasoch chwi, syr? |
Yes; but we must have a glass or two of ale. | Do, ond rhaid i ni gael gwydriad neu ddau o gwrw. |
Where shall we go to get it? | I ba le yr awn iw geisio? |
To the King's Head. | I ben y Brenin. |
What sort of people are they? | Pa fath bobl ydynt? |
They are very kind people. | Maent yn bobl garedig iawn. |
Who is that person, going by? | Pwy yw y person yna sy'n myned heibio? |
I do not know him. | Nid wyf yn ei adnabod ef. |
I am now for going home. | Yr wyf yn awr am fyned adre. |
It is time for us to go. | Mae yn amser i ni fyned. |
Yes, it is. | Ydyw y mae. |
Thank you for your company. | Diolch i chwi am eich cwmni. |
You are welcome; don't mention it. | Mae i chwi groesaw, tewch a son. |
My compliments to your brother. | Fy moesau at eich brawd. |
Good bye, sir. | Da y bo chwi, syr. |
EMPLOYMENTS, &c. | GORUCHWYLION, &c. |
What is your occupation? | Beth yw eich galwedigaeth chwi? |
I was brought up an attorney. | Fe'm dygwyd i fynu yn wr y gyfraith. |
Where is your office? | Pa le mae eich swyddfa? |
In Castle Street. | Yn Heol y Castell. |
When will the assize be? | Pa bryd y bydd y Frawdlys? |
Between Epiphany and Easter. | Rhwng yr Ystwyll a'r Pasc. |
Do you get enough of employment? | A ydych chwi yn cael digon o waith? |
Yes, and I have three apprentices. | Ydwyf, ac y mae genyf dri o egwyddor weision. |
I am glad to hear. | Mae'n dda genyf glywed. |
What is your father's calling? | Beth ydyw galwedigaeth eich tad? |
He is an engineer. | Peirianwr yw efe. |
How old is he now? | Beth ydyw ei oed yn awr? |
He is about fifty. | Y mae oddeutu deg a deugain. |
Have you any brothers? | A oes genych chwi frodyr? |
Yes, I have six. | Oes, mae genyf chwech. |
What are they doing? | Pa beth maent hwy yn ei wneuthur? |
They are all with my father, except one. | Maent oll gyda fy nhad oddi eithr un. |
What is he doing? | Pa beth mae e yn ei wneud? |
He is with my uncle, farming. | Mae gyd a fy ewythr, yn amaethu. |
What was your grandfather's occupation? | Beth oedd galwedigaeth eich taid? |
He was a clergyman. | Yr oedd yn offeiriad. |
Who is that gentleman? | Pwy yw'r boneddwr yna? |
The village doctor. | Meddyg y pentref. |
Is there much sickness in this neighbourhood now? | A oes llawer o afiechyd yn y gymmydogaeth yma yn awr? |
No, sir, but very little. | Nac oes, syr, ond ychydig iawn. |
Where is the doctor going? | Pa le mae'r meddyg yn myned? |
To visit the sick. | I ymweled a'r cleifion. |
Who is at the door? | Pwy sydd wrth y drws? |
He is a commercial man. | Masnachwr yw efe. |
Where from? | O ba le? |
From Cardiff. | O Gaerdydd. |
Has he a son a woollen-draper? | A oes ganddo fab yn frethynwr? |
Yes, and one a linen-draper. | Oes, ac un yn lieiniwr. |
Where at? | Yn mha le? |
Somewhere near London. | Yn rhyw le yn agos i Lundain. |
Of what trade is your brother Thomas? | Beth ydyw creft eich brawd Thomas? |
He is a stonemason. | Saer maen yw efe. |
What trade does David follow? | Pa gelfyddyd mae Dafydd yn ei ddilyn? |
He is a weaver. | Gwehydd yw efe. |
And what is William? | A pheth yw Gwilym? |
He is a shoemaker. | Crydd yw efe. |
His uncle was a tailor. | Yr oedd ei ewythr yn deiliwr. |
What is your employment? | Beth ydyw eich gwaith chwi? |
I am a farmer. | Amaethwr ydwyf fi. |
How large is your farm? | Pa mor fawr ydyw eich tyddyn? |
Six score acres. | Chwech ugain cyfar. |
How many cows do you keep? | Pa nifer o fuchod a gedwch? |
Fifteen generally. | Pymtheg yn gyffredin. |
How many horses? | Faint o geffylau? |
Three, and a young colt. | Tri ac ebol ieuangc. |
And what number of sheep? | A pha nifer o ddefaid? |
About thirty. | Oddeutu deg a'r hugain. |
What sort of land is your farm? | Pa fath dir yw eich tyddyn? |
A part of it is meadow land. | Mae rhan o hono yn weirglodd-dir. |
And part of it is pasture. | Ac y mae rhan o hono yn borfa. |
And another part is woodland. | A rhan arall yn goedtir. |
But the greatest part is arable. | Ond y mae y rhan fwyaf yn aradwy. |
Have you done ploughing? | A ddarfu chwi aredig? |
Yes, the men are harrowing. | Do, mae'r dynion yn llyfnu. |
Have you done sowing wheat? | A ddarfu chwi hau gwenith? |
Yes, and have finished harrowing. | Do, ac wedi gorphen llyfnu. |
Harvest will be early this year. | Bydd yn gynhauaf cynar eleni. |
Yes, it will; for the wheat is nearly ripe now. | Bydd, mae'r gwenith yn agos yn addfed yn awr. |
Have you commenced reaping? | A ddarfu chwi ddechreu medi? |
Yes, I have three men reaping to-day. | Do, mae genyf dri o ddynion yn medi heddyw. |
Do you intend to reap the barley and oats? | A ydych yn bwriadu medi'r haidd a'r ceirch? |
No, I intend cutting them with a scythe. | Na, yr wyf yn meddwl eu tori a'r bladur. |
Have you had your harvest? | A gawsoch chwi y cynhauaf? |
Yes, except the oats. | Do, oddi eithr y ceirch. |
Have you had yours? | A gawsoch chwi yr eiddoch? |
Yes, a week ago. | Do, er's wythnos. |
My servant is thrashing barley. | Mae fy ngwas yn dyrnu haidd. |
How much do you get for the barley? | Faint ydych yn ei gael am yr haidd? |
Two pounds a quarter. | Dwy bunt y peg. |
I am going to winnow oats to-morrow. | Yr wyf yn myned i nithio ceirch y fory. |
What do you get for the oats? | Beth ydych yn ei gael am y ceirch? |
Twenty-two shillings. | Dau swllt a'r hugain. |
What is the price of the wheat in this neighbourhood? | Beth ydyw pris y gwenith yn y gymmydogaeth hon? |
Three pounds ten. | Tair a chweigen. |
Thomas, go and dig potatoes for dinner. | Thomas, ewch i godi cloron i giniaw. |
What potatoes am I to dig up to-day? | Pa gloron sydd i mi godi heddyw? |
The white potatoes. | Y cloron gwynion. |
Must I bring turnips and carrots? | A raid i mi ddwyn maip a moron? |
Yes, bring a few. | Deuwch, ac ychydig. |
Turn the pigs to their sties. | Trowch y moch iw citiau. |
What for? | I ba beth. |
That they may eat the swedes. | Fel y gallont fwyta y Rhwdins. |
I have done. | Yr ydwyf wedi gwneud. |
Gather the sheep into the fold. | Heliwch y defaid i'r gorlan. |
I want to mark some of them. | Mae arnaf eisiau nodi rhai o honynt. |
Have you shorn the lambs? | A ddarfu chwi gneifio yr wyn? |
No, but will next week. | Na ddo, ond mi wnaf yr wythnos nesaf. |
It is time to tie the cattle. | Mae hi yn bryd rhwymo 'r gwartheg. |
I will immediately. | Mi a wnaf yn ebrwydd. |
TRAVELLING, &c. | YMDAITH, &c. |
Are you going from home? | A ydych chwi yn myned oddi cartref? |
I am going to make a long journey. | Yr wyf yn myned i daith bell. |
When will you start? | Pa bryd y cychwynwch? |
In the beginning of July. | Ddechreu mis Gorphenaf. |
How will you travel? | Pa fodd yr ymdeithiwch. |
I will go on horseback to Bangor. | Mi âf ar geffyl i Fangor. |
How will you proceed? | Pa fodd yr ewch rhagoch? |
I will take the coach to Holyhead. | Mi a gymmeraf y cerbyd i Gaergybi. |
Are there commodious inns in Wales? | A oes Gwestfäoedd cysurus yn Nghymru? |
There are but a few. | Nid oes ond ychydig. |
Are there good stables? | A oes stablau da yno? |
Yes, pretty fair. | Oes, lled dda. |
Where is the hostler? | Pa le mae'r ostler? |
He is coming, sir. | Mae efe yn dyfod, syr. |
Take care of my horse. | Cymmerwch ofal o fy ngheffyl. |
Clean him well. | Glanhewch ef yn dda. |
I will, sir. | Mi wnaf, syr. |
Have you good hay? | A oes genych wair da? |
Yes, sir, the best in the country. | Oes, syr, y goreu yn y wlad. |
Give him a feed of oats. | Rhoddwch iddo ddogn o geirch. |
Spread clean straw under him. | Taenwch wellt glân o dano. |
Where is the waiter? | Pa le y mae'r gweitiwr? |
I am here, sir. | Yr wyf yma, syr. |
Take my trunk to the bedroom. | Cymmerwch fy nhrwngc i'r ystafell wely. |
Lend me a candle. | Rhowch fenthyg canwyll. |
Warm the bed. | Twymnwch y gwely. |
I hope the bed is not damp. | Gobeithio nad yw y gwely yn llaith. |
No, sir, somebody is in it every night. | Nac ydyw, mae rhyw un ynddo bob nos. |
Bring another blanket. | Deuwch a gwrthban arall. |
Is one enough? | A ydyw un yn ddigon? |
Yes, perhaps I shall not want one. | Ydyw, feallai na bydd arnaf eisiau un. |
Where is the night cap? | Pa le mae y cap nos? |
Bring some water into the room. | Deuwch a dwfr i'r ystafell. |
Have you a towel there? | A oes genych dywel yna? |
Yes, sir, I have two clean ones. | Oes, syr, mae genyf ddau lân. |
When do you intend to get up? | Pa bryd y bwriedwch godi? |
About six o'clock. | Oddeutu chwech o'r gloch. |
Get my breakfast ready by seven o'clock. | Parattowch fy moreufwyd erbyn saith o'r gloch. |
What time will the coach leave? | Pa bryd y cychwyna y cerbyd? |
It leaves at ten o'clock. | Mae'n cychwyn ddeg o'r gloch. |
How many miles are there to the next town? | Pa sawl milltir sydd i'r dref nesaf? |
You have fifteen miles. | Mae i chwi bymtheg milltir. |
What sort of road is it? | Pa fath ffordd ydyw? |
A very uneven road. | Ffordd bur anwastad. |
You must go over the mountain. | Rhaid i chwi fyned dros y mynydd. |
Are there many cross roads? | A oes llawer o groes ffyrdd? |
Only one, to the left. | Dim ond un, ar yr aswy. |
Is there a river on the road? | A oes afon ar y ffordd? |
Yes, about four miles off. | Oes oddeutu pedair milltir ym mlaen. |
How shall we cross over? | Pa fodd y croeswn drosodd? |
There is an excellent bridge. | Mae yno bont ragorol. |
How many miles more have I? | Pa sawl milltir eto sydd genyf? |
You will soon come to your journey's end. | Chwi a ddeuwch yn fuan i ben eich taith. |
Whose house is that yonder? | Tŷ pwy yw hwn acw? |
It is the Bishop's palace. | Plas yr Esgob yw. |
Where is the church? | Yn mha le mae'r Eglwys? |
At the foot of yonder hill. | Wrth droed y bryn acw. |
Where shall we alight? | Yn mha le y disgynwn? |
At the Castle Inn. | Yn Ngwesty y Castell. |
Which is the travellers' room? | Pa un yw ystafell ymdeithwyr? |
It is on the right hand. | Mae hi ar y llaw ddehau. |
Is there a waterfall in this neighbourhood? | A oes rhaiadr yn y gymmydogaeth hon? |
Yes; it is six miles from here. | Oes, y mae chwe milltir oddi yma. |
I have a wish to see it. | Mae genyf ewyllys iw weled. |
Can I have a guide? | A allaf fi gael arweinydd? |
Yes, sir, there is one ready at hand. | Gellwch, syr, mae un yn barod wrth law. |
I will hire a pony. | Mi a logaf ferlyn. |
It will cost you seven shillings. | Mi gostia i chwi saith swllt. |
Very well, here they are. | O'r goreu, dyma nhw. |
Saddle him immediately. | Cyfrwywch ef yn union. |
Which is the nearest road? | Pa un yw y ffordd nesaf? |
Across the hill. | Ar draws y bryn. |
Then, turn to your left. | Wedi, hyny, trowch ar eich llaw aswy. |
Follow the brink of the river. | Canlynwch lan yr afon. |
For how far? | Am ba mor bell. |
For a mile and a half. | Am filltir a hanner. |
There is a beautiful prospect here. | Mae yma olygfa hardd. |
Astonishing, what a variety! | Rhyfedd, y fath amrywiaeth! |
It is going to rain. | Mae hi yn myned i wlawio. |
We must make haste. | Mae yn rhaid i ni frysio. |
We shall be caught in the rain. | Fe oddiwedda y gwlaw nyni. |
Will your horse trot? | A wna eich ceffyl duthio? |
He will canter famously. | Efe a garlama yn rhagorol. |
We shall not be long. | Ni byddwn yn hir. |
About half an hour. | Oddeutu hanner awr. |
That is a good pony. | Merlyn da yw hwna. |
Not so good, as the one I had yesterday. | Nid cystal, a'r hwn oedd genyf ddoe. |
Take off your top coat. | Tynwch eich côb. |
I am wet to the skin. | Yr wyf yn wlyb hyd y croen. |
And I am too. | A minnau hefyd. |
Put my clothes to dry. | Rhowch fy nillad i sychu. |
I wish to see the monastery. | Dymunwn weled y fynachlog. |
Which is the road to the old monastery? | Pa un yw'r ffordd at yr hen fynachlog? |
Go straight forward. | Ewch rhag eich blaen. |
Keep to the right hand. | Cedwch ar y llaw ddehau. |
Make towards the grove yonder. | Cyfeiriwch at y llwyn coed acw. |
Keep that white wall in view. | Cedwch y wal wen acw mewn golwg. |
There is no finger post. | Nid oes yna yr un mynegbost. |
Turn by the third milestone. | Trowch wrth y drydedd gareg filltir. |
I shall be back in two hours. | Mi a ddeuaf yn ol yn mhen dwy awr. |
I must be at home to-morrow night. | Rhaid i mi fod gartref nos y fory. |
A horse will meet me at Conway. | Fe ddaw ceffyl im cyfarfodd i Gonway. |
I shall reach home before midnight. | Mi a gyrhaeddaf adre cyn hanner nos. |
I wish you a pleasant journey. | Dymunaf i chwi siwrna gyssurus. |
Thank you, sir, for your kindness. | Diolch i chwi, syr, am eich caredigrwydd. |
Make haste this way again. | Brysiwch y ffordd yma eto. |
Perhaps I may come next year, but no sooner. | Feallai y deuaf y flwyddyn nesaf, ond nid yn gynt. |
Remember me to Mrs. Jones and all the family. | Cofiwch fi at Mrs. Jones a'r holl deulu. |
MARKETING, &c. | MARCHNADAETH, &c. |
I want to go to market. | Mae arnaf eisiau myned ir farchnad. |
I have been. | Yr ydwyf fi wedi bod. |
Bring me a basket. | Moeswch i mi fasged. |
It is ready on the table. | Mae'n barod ar y bwrdd. |
What will you buy? | Pa beth a brynwch? |
I want to buy several things. | Mae arnaf eisiau prynu amryw bethau. |
How much a pound is this beef? | Pa faint y pwys yw y cig eidion yma? |
Five pence halfpenny. | Pum ceiniog a dimai. |
What will this piece weigh? | Pa faint a bwysa y darn yma? |
Fourteen pounds. | Pedwar pwys a'r ddeg. |
How much will that come to at five pence? | I ba faint y daw hyny wrth bum ceiniog? |
Five shillings and ten pence. | Pum swllt a deg ceiniog. |
What a pound is the mutton? | Pa faint y pwys yw'r manllwyn? |
Six pence halfpenny. | Chwech a dimai. |
How much will that loin weigh? | Faint a bwysa y lwyn yna? |
Nine pounds and a quarter. | Naw pwys a chwarter. |
Have you any veal? | A oes genych gig llo? |
No, it is all sold. | Nac oes, y mae i gyd wedi ei werthu. |
What is the price of this goose? | Beth ydyw pris yr wydd yma? |
Three and sixpence. | Tri a chwech. |
How much do you ask for the ducks? | Faint ydych yn ei ofyn am yr hwyaid? |
You shall have the two for half a crown. | Chwi a gewch y ddwy am hanner coron. |
What a pound is the butter? | Faint y pwys yw'r menyn? |
Fourteen pence. | Pedair a'r ddeg. |
How many eggs are there for a shilling? | Faint o wyau sydd am swllt? |
Eighteen. | Deunaw. |
I want a measure of potatoes. | Mae arnaf eisiau mesur o gloron. |
What sort? | Pa fath? |
The best you have. | Y rhai goreu sydd genych. |
Please come to the shop. | Os gwelwch yn dda deuwch i'r siop. |
Let me see your blue cloth. | Gadewch i mi weled eich brethyn glas. |
How much a yard is it? | Faint y llath ydyw? |
Nine and sixpence. | Naw a chwech. |
Cut me a yard and a half. | Torwch i mi lathen a hanner. |
Have you any fine linen? | A oes genych liain main? |
Yes, plenty. | Oes ddigon. |
I want a pair of woollen stockings. | Mae arnaf eisiau par o hosanau gwlan. |
What is the price of them? | Beth ydyw eu pris? |
Three and nine pence. | Tri a naw. |
They are too dear. | Maent yn rhy ddrud. |
Here is a very cheap pair. | Dyma bâr rhad iawn. |
What do you ask for this hat? | Beth ydych yn ofyn am yr het yma? |
Twelve shillings. | Deuddeg swllt. |
Can you change a ten pound note? | A ellwch chwi newid papur deg punt. |
Yes, sir, I can. | Gallaf, syr. |
Have you been to market? | A fuoch chwi yn y farchnad? |
Yes, and am very much tired. | Do, ac yr ydwyf wedi blino yn fawr. |
Did you see my mother? | A welsoch chwi fy mam? |
Yes, she was waiting for your father. | Do, yr oedd yn aros am eich tad. |
How is the market to-day? | Sut y mae y farchnad heddyw? |
Every thing very dear. | Pol peth yn bur ddrud. |
Every kind of corn is much dearer. | Pob math o yd yn llawer drutach. |
Flesh meat is getting dearer. | Mae cig yn myned yn ddrutach. |
There is no scarcity of anything, except money. | Nid oes prinder o ddim, oddi eithr arian. |